Newid hinsawdd yw’r prif reswm dros dywydd eithafol yng Nghymru Climate change is the main reason for extreme weather in Wales Mae stormydd difrifol yn effeithio ar y wlad bob blwyddyn Severe storms affect the country every year Gall adeiladau gael eu difrodi gan ddŵr llifogydd, mellt a gwyntoedd cryfion Buildings can be damaged by flood water, lightning and strong winds Gall fod difrod i amddiffynfeydd arfordirol, gan arwain at lifogydd mewn trefi a phentrefi arfordirol There can be damage to coastal defences, leading to flooding in coastal towns and villages Mae Llywodraeth Cymru yn gwario miliynau ar gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd The Welsh Government spends millions on flood defence schemes Fodd bynnag, mae problemau difrifol yn dal i ddigwydd, yn enwedig yng nghymoedd De Cymru ac ar hyd afonydd mawr fel y Dyfi a’r Hafren However serious problems are still occurring, particularly in the South Wales valleys and alongside major rivers such as the Dovey and Severn Mae cartrefi a busnesau wedi bod o dan y dŵr mewn ardaloedd nad oedd wedi gweld llifogydd ers degawdau Homes and businesses have been underwater in areas that had not seen flooding for decades Mae leiniau rheilffordd yng nghanolbarth a gogledd Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd oddi ar afonydd Railway lines in central and north Wales have been damaged by floodwaters from rivers Cafodd y rheilffordd ar hyd yr arfordir ger Harlech ei difrodi gan donnau storm o’r môr The railway along the coast near Harlech was damaged by storm waves from the sea Mae’n amlwg y bydd angen buddsoddiad sylweddol ar Gymru mewn cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd It is obvious that Wales will need significant investment in new flood defence schemes Mae trigolion a busnesau yn byw mewn ofn o ragor o lifogydd Residents and businesses are living in fear of more floods Mae angen danfon bagiau tywod i bob cartref sydd mewn perygl o lifogydd Sandbags need to be delivered to every home that is at risk from floods Mae angen clirio draeniau sydd wedi blocio ar frys, gan gall y rhain achosi llifogydd Blocked drains need clearing urgently, as these can be a cause of flooding Gall rheoli`r amgylchedd yn ofalus leihau peryglon llifogydd Careful management of the environment can reduce flood risks Gall coedwigoedd a gwlyptiroedd ryddhau dŵr yn araf i afonydd ar ôl storm Forests and wetlands can release water slowly into rivers after a storm Mae hyn yn lleihau lefelau brig y llifogydd i lawr yr afon This reduces the peak flood levels downstream |