Botanegydd yw Chris sydd wedi cynnal arolwg o blanhigion ar hyd yr arfordir Chris is a botanist who has carried out a survey of plants along the coast Un diwrnod yn yr haf roedd yn dilyn llwybr ar hyd pen y clogwyni One day in the summer he was following a path along the top of the cliffs Stopiodd i dynnu llun o blanhigyn prin yn tyfu mewn crac yn y creigiau He stopped to take a photograph of a rare plant growing in a crack in the rocks Wrth iddo gyffwrdd â`r graig, symudodd carreg a daeth haid ddig o gacwn allan o nyth As he touched the rock, a stone moved and an angry swarm of wasps came out from a nest Dechreuodd y cacwn gasglu o amgylch pen Chris The wasps began to gather around Chris`s head Roedd yn poeni`n fawr am gael ei bigo, felly fe redodd i ffwrdd ar hyd y llwybr He was very worried about being stung, so he ran off along the path Parhaodd y cacwn i`w ddilyn The wasps continued to follow him Buan y cyrhaeddodd fuarth fferm He soon reached a farmyard Wrth edrych o gwmpas, gwelodd sied nad oedd wedi`i chloi Looking around, he saw a shed that was not locked Rhuthrodd i mewn a chau`r drws, yna aros i`r cacwn fynd i ffwrdd He rushed inside and shut the door, then waited for the wasps to go away Yn ddiweddar, mae Chris wedi rhoi darlith mewn cynhadledd fotaneg Chris has recently given a lecture at a botany conference Dangosodd lun o`r planhigyn prin ar ben y clogwyn, a dywedodd wrth y gynulleidfa am y digwyddiad gyda`r cacwn He showed a picture of the rare plant on the cliff top, and told the audience about the incident with the wasps Rhybuddiodd e nhw i fod yn ofalus wrth dynnu lluniau o blanhigion He warned them to be careful when photographing plants Gallai fod yn fwy peryglus na`r disgwyl It could be more dangerous than expected |