Session 12: Sentences

Prynodd ei char newydd yn y garej.

        She bought her new car at the garage.

Es i i`r siop, dewis anrheg a thalu amdani.

        I went to the shop, chose a present and paid for it.

Mae yn ein tŷ ni, nid yn eu tŷ nhw.

        It is in our house, not in their house.

Mae angen i ti orffen dy waith cartref rŵan.

        You need to finish your homework now.

Mae ein tîm heb obaith o ennill y cwpan.

        Our team has no hope of winning the cup.

Ble ydyn nhw`n mynd gyda`u ffrindiau?

        Where are they going with their friends?

Sefwch i fyny, darllen eich adroddiad ac ateb cwestiynau.

        Stand up, read your report and answer questions.

Gawsoch chi win gyda`ch pryd o fwyd?

        Did you have wine with your meal?

Rydw i`n prynu fy llysiau yn eu siop.

        I buy my vegetables at their shop.

Mae`n gallu teithio ddydd Sadwrn gyda`i docyn tymor.

        He can travel on Saturday with his season ticket.

Bydd y siop newydd yn agor yn fuan.

        The new shop will be opening soon.

Dywedodd hi fod eich car y tu allan eu tŷ.

        She said that your car was outside their house.

Clywais am ei ddamwain gan fy mrawd.

        I heard about his accident from my brother.

Mae hi`n mynd i baentio ei chegin yr wythnos nesaf.

        She is going to paint her kitchen next week.

Dw i ddim wedi gweld ei lythyr yn y papur newydd, ond gwelais eich llythyr chi.

        I haven`t seen his letter in the newspaper, but I saw your letter.

Dyma`r allwedd i`ch ystafell.

        This is the key to your room.

A ddewch chi i`n siop ddydd Mercher?

        Will you come to our shop on Wednesday?

Pwy ddywedodd wrthych chi fod ei athro`n sâl?

        Who told you that his teacher was ill?

Faint ydyn nhw’n mynd i wario ar eu gwyliau?

        How much are they going to spend on their holiday?

Gwnaeth ei galwad ffôn o fy swyddfa.

        She made her phone call from my office.