Session 12: Article

Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru yw`r dref fwyaf ar arfordir Gorllewin Cymru

        Aberystwyth in Mid Wales is the largest town on the West Wales coast

Dros y canrifoedd mae Aberystwyth wedi datblygu mewn nifer o wahanol ffyrdd

         Over the centuries Aberystwyth has developed in a number of different ways

Ym mhen deheuol y promenâd ydy adfeilion castell Aberystwyth, a adeiladwyd gan Edward I i reoli`r Cymry

         At the southern end of the promenade are the ruins of Aberystwyth castle, which was built by Edward I to control the Welsh

Yna fe`i defnyddiwyd gan Owain Glyndŵr yn ystod y gwrthryfel ym 1404

         It was then used by Owain Glyndŵr during the uprising in 1404

Aberystwyth yw`r farchnad a chanolfan fasnachol ar gyfer yr ardal ffermio gyfagos

         Aberystwyth is the market and commercial centre for the surrounding farming area

Dechreuodd y dref fel harbwr pysgota a phorthladd bach

         The town began as a fishing harbour and small port

Allforiwyd mwyn plwm o`r porthladd

         Lead ore was exported from the port

Cynyddodd y fasnach hon pan adeiladwyd rheilffordd Dyffryn Rheidol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg

         This trade increased when the Vale of Rheidol railway was built at the end of the nineteenth centuary

Cysylltodd y rheilffordd gul y porthladd gyda`r ardal o fwyngloddiau plwm o amgylch Pont ar Fynach

         The narrow gauge railway connected the port with the area of lead mines around Devil`s Bridge

Bellach mae`n cludo ymwelwyr i weld y rhaeadrau ysblennydd ym Mhont ar Fynach

         It now carries visitors to see the spectacular waterfalls at Devil`s Bridge

Roedd cyrhaeddiad y brif reilffordd o Loegr yn oes Fictoria yn caniatáu i Aberystwyth ddatblygu fel cyrchfan wyliau

         The arrival of the main railway line from England in Victorian times allowed Aberystwyth to develop as a holiday resort

Mae`r promenâd cain ar lan y môr yn ymestyn o`r pier i bentir Constitution Hill

         The elegant seafront promenade extends from the pier to the headland of Constitution Hill

Mae gan y pentir serth hwn reilffordd clogwyn, a agorodd ym 1896

         This steep headland has a cliff railway, which opened in 1896

Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth mewn gwesty crand ar lan y môr

         Aberystwyth University was founded in a grand hotel on the seafront

Mae`r brifysgol bellach wedi symud i gampws modern mawr

         The university has now moved to a large modern campus

Gerllaw mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd â`r casgliad mwyaf o lawysgrifau prin yng Nghymru

         Nearby is the National Library of Wales, which has the largest collection of rare manuscripts in Wales

Mae Aberystwyth yn dal i fod yn gyrchfan wyliau bwysig

         Aberystwyth is still an important holiday destination

Mae llawer o gerddwyr yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru sy`n croesi Constitution Hill

         Many walkers follow the Wales Coast Path which crosses Constitution Hill

Mae`r dref wedi datblygu cymuned amlddiwylliannol, ac mae bwytai yn darparu amrywiaeth o fwyd o wahanol wledydd

         The town has developed a multicultural community, and restaurants provide a variety of food from different countries