Session 14






Language notes

In Welsh, many common verbs are followed by particular prepositions.  In this section we give examples for some verbs beginning with letters G - Y.  This continues the list begun previously in session 13.

gadael i;
      Gadewch i Jane orffen y stori.
      Leave Jane to finish the story.
gafael yn/mewn 
       Gafaelwch yn y bwced o sied yr ardd.
       Grab the bucket from the garden shed.
       Gafaelwch mewn bwced o sied yr ardd.
       Grab a bucket from the garden shed.
gofalu am;
        Allwch chi ofalu am y plant y prynhawn yma?
        Can you take care of the children this afternoon?
gofyn i/am
         Gofynnais i'r tiwtor am help gyda'r traethawd.
         I asked the tutor for help with the essay.
gorchymyn i
         Gorchmynnodd i'r staff adael y swyddfa.
         He ordered the staff to leave the office.
gwahardd rhag
         Mae'r rhybudd yn gwahardd pobl rhag fynd i mewn yr hen adeilad. 
         The notice forbids people to go in the old building.
gweiddi ar/am 
         Gwaeddodd yr hyfforddwr ar y chwaraewr am golli'r gôl.
         The trainer shouted at the player for missing the goal.
gwisgo am
         Roedd yn gwisgo siwt a thei am y cyfarfod.
         He was wearing a suit and tie for the meeting.
gwrando ar/am
         Roedd yn gwrando ar y glaw ac am geir yn mynd heibio.
         He was listening to the rain and for cars going past.
gwylio dros;
         Byddaf yn gwylio dros yr anifeiliaid tra byddet ti i ffwrdd.
         I will watch over the animals while you are away.
hiraethu am;
         Roedden nhw yn hiraethu am y dyddiau cyn y rhwngrwyd.
         They were longing for the days before the internet.
llwyddo i/yn
         Llwyddodd yn y sioe amaethyddol i ennill gwobr gyntaf.
         She succeeded in the agricultural show in winning a first prize.
mynd at/i 
        Byddaf yn mynd i'r cwmni ac at y rheolwr i ofyn am y prosiect.
        I will go to the company and to the manager to ask about the project.
nesáu at;
        Mae'r trên yn nesáu at orsaf Gaerdydd Ganolog.
        The train is approaching Cardiff Central station.
ofni rhag 
        Roedd e'n ofni rhag taranau a mellt.   
        He was frightened of thunder and lightning.






peidio â
        Cefais rybudd i beidio â mynd yno eto.
        I had a warning not to go there again.
pwyso ar;
       Pwysodd y cwmni ar y staff i weithio oriau hirach.
       The company pressed the staff to work longer hours.
rhedeg at
       Rhedodd y plant at eu hathrawes.
       The children ran to their teacher.
rhoi i/am;
       Rhowch y llysiau i'r cogydd am y cawl.
       Give the cook the vegetables for the soup.
siarad â/am; 
        Byddaf yn siarad â'r gwesteion am eu trefniadau.
        I will speak to the guests about their arrangements.
sôn wrth/am;
        Rhaid i mi sôn wrth Mr Jones am y cyfarfod.
        I must mention to Mr Jones about the meeting.      
sylwi ar; 
        Wnaethon ni sylwi ar y tai newydd yn y pentref.
        We noticed the new houses in the village.
talu i/am;
        Rhaid i ni dalu pum punt i'r ffermwr am wersylla.
        We must pay five pounds to the farmer for camping.
troi at;
        Gwnaethon nhw droi at y cyngor am gymorth ariannol.
        They turned to the council for financial help. 
ufuddhau i;
         Rhaid i chi ufuddhau i holl arwyddion y ffyrdd.
         You must obey all the road signs.
ychwanegu at
         Bydd y llyfr hwn yn ychwanegu at y casgliad hanes lleol.
         This book will add to the local history collection.
ymadael â;
         Bydd y trên yn ymadael â platfform tri am hanner awr wedi deg.
         The train will leave platform three at half past ten.
ymdrin â
         Mae'r gohebydd yn ymdrin â'r etholiad ar gyfer y papur newydd.
         The reporter is covering the election for the newspaper.
ymguddio rhag
          Mae'n ymguddio rhag y grwp o fechgyn. 
          He is hiding from the group of boys.
ymladd â/dros
          Roedden nhw'n ymladd â'r Llywodraeth dros hawliau menywod. 
          They were fighting the Government over women's rights.
ymosod ar;
          Ymosododd y gatrawd ar y gelyn ar doriad y wawr.
          The regiment attacked the enemy at dawn.
ymwybod o.
          Roedd yn ymwybodol o'r sŵn y tu allan i'r tŷ.
          He was conscious of the noise outside the house.




Treigladau

In this section we look at some further occurrences of the treiglad meddal.

A treiglad meddal is applied after the numbers un (with feminine nouns only) and dwy/dau.  It is also possible, but not essential, to apply a treiglad meddal after the numbers saith and wyth.  Either of the following is acceptable: 

      Prynodd y bwyty saith fwrdd ac wyth gadair.       
      Prynodd y bwyty saith bwrdd ac wyth cadair.
      The restaurant bought seven tables and eight chairs.
 
A treiglad meddal is applied after dyma, dyna and dacw. These words are acting as if they are short form verbs:

       Dyma gae lle gallwn ni wersylla.                          cae
       Here is a field where we can camp.
             
        Dyna fws i ganol y dref.                                        bws
        That's a bus to the town center.  
       
        Dacw gi yn casglu defaid gyda'r ffermwr             ci
        There's a dog collecting sheep with the farmer.

A treiglad meddal appears in greetings:
         Llongyfarchiadau, gydweithwyr.                         cydweithwyr
         Congratulations, colleagues.
         Croeso, foneddigion a boneddigesau.               boneddigion
         Welcome, ladies and gentlemen.         





When two words are joined together, a treiglad meddal is applied to the second word, for example:
              pwer tŷ                pwerdy               power station
              môr   + clawdd        morglawdd        breakwater
              cylch  +  llythyr       cylchlythyr        news letter

A treiglad meddal is applied after the conjunction neu:
          Nid oes gen i gar neu feic.                                                  beic
          I don't have a car or bike.
          Dydyn nhw ddim eisiau byw mewn dinas neu dref.         tref
          They do not want to live in a city or town.

A treiglad meddal is also applied after the conjunction pan:
      Aeth hi at y drws pan ganodd y gloch.                               canodd
      She went to the door when the bell rang.
      Roeddent ar y traeth pan welon nhw'r llong.                     gwelon
      They were on the beach when they saw the ship.

A treiglad meddal is applied after faint and pwy in a question:

        Faint fydd yn y cyfarfod?                        bydd
        How many will be in the meeting?

        Pwy dalodd am y tocynnau?                  talodd
        Who paid for the tickets?



Idioms

The word 'rhwng' is usually translated as 'between':
        Bydd yn cyrraedd rhwng tri a phedwar o'r gloch.
        He will arrive between three and four o'clock.
        Mae Felinheli rhwng Bangor a Caernarfon.
        Felinheli is between Bangor and Caernarfon.

'rhwng' appears in a number of common sayings and idioms:

does dim Cymraeg rhyngddyn nhw - they are not on speaking terms.
   Ar ôl y ddadl rhwng Dafydd a Huw, does dim Cymraeg rhyngddyn nhw. 
   After the argument between Dafydd and Huw, they are not on speaking terms.

rhwng bodd ac anfodd - with mixed feelings, uncertain   
    Symudodd y teulu i'r ddinas rhwng bodd ac anfodd, yn drist 
    wrth adael y pentref.
    The family moved to the city with mixed feelings, sad at leaving the village.





rhyngoch chi a fi a'r wal - confidentially, between the two of us
   Rhyngoch chi a fi a'r wal, mae'r cwmni'n bwriadu cau'r swyddfa hon.
   Confidentially, the company is planning to close this office.

rhwng cwsg ac effro - half awake
    Rhwng cwsg ac effro, clywodd rywun yn symud yn yr ardd.
    Half awake, he heard someone moving in the garden. 

rhwng popeth - amongst everything
    Roedd y siop yn brysur a rhwng popeth anghofiais brynu bara.
    The shop was busy and amongst everything I forgot to buy bread.

rhwng y cŵn a'r brain - to deteriorate, to go to the dogs 
     Collodd y perchennog ddiddordeb ac aeth y gwesty rhwng       
     y cŵn a'r brain.
     The owner lost interest and the hotel went to the dogs.




Translate the sentence:

Saint Fagans Museum of Welsh Life is a large open-air museum.



Suggested translation: (a number of alternatives acceptable)













Story

The set of icons below was randomly selected, and has been used to write a story.

You are invited to translate the story into Welsh.



Vocabulary

Brecon Beacons  Bannau Brycheiniog;  
expedition  alltaith  noun (f);   explore  fforio  verb;
descent  disgyniad  noun (m);   




Huw and Ella are presenters of a Welsh radio magazine programme.
The programme has recently been examining the tourist industry.
The producer had the idea that the presenters could get personal experience of outdoor adventure holidays for families.
They could then talk about their experiences on the radio.
For the first report, Huw was sent to join a group of adventurers for an expedition in the Brecon Breacons.
The leader took them to the high moorland of the Black Mountain.
They camped for the night before descending the rocky slopes to Llyn y Fan.
Next to take part was Ella, who was sent for a day`s mountain biking in a forest in south Wales.
After some training on tracks around the outdoor centre, the group were taken by minibus with their bikes to the top of the valley.
From here, they had a fast and exciting descent along miles of tracks through the forest.
After presenting the reports of their adventures on the radio program, the producer told Huw about one final challenge.
He was joining a group to explore a huge system of caves on the mountain above the town of Crickhowell.
The cave has the name `Ogof Agen Allwedd`, meaning `Keyhole Cave` in English.
This is due to the shape of some of the small tunnels.
The group went to the entrance of the cave, where the leader unlocked a tiny gate in the rock face.
Eventually they reached a large chamber with an underground river flowing along it.
They were amazed to see bats living in the cave.
Huw spoke about his adventure during the programme the following week.
At a meeting later, the producer congratulated the two presenters on their reports.
`Where shall I send you next?` he said.
`Perhaps we could explore shops and restaurants in Cardiff as our next project, please`.

Translate the sentence:

Huw and Ella are presenters of a Welsh radio magazine programme.

Suggested translation: (a number of alternatives acceptable)










Create your own story in Welsh

Click the button to randomly select a set of story icons:








Use of Welsh

Meirionnydd oak woods










Vocabulary

layer  haen  noun (f);   emergent  ymwthiol  adjective; 
species  rhywogaeth  noun (f);  short lived  byrhoedlog  adjective;
birch  bedwen  noun (f);  oak  derwen  noun (f);
shrub  llwyn  noun (m); native  brodorol  adjective;  
holly  celynnen  noun (f);  herb  llysieuyn  noun (m);
fern  rhedynen  noun (f);   moss  mwsogl  noun (m);
damp  llaith  adjective;  lichen  cen  noun (m);
epiphyte  epiffyt  noun (m);  trunk  boncyff  noun (m);
extensive  ymestynnol  adjective; grass  gwair  noun (m);



The largest ancient woodlands in Wales are the Meirionnydd Oakwoods in Snowdonia.

The woodland has a layering similar to tropical rainforest, and has been designated as temperate rainforest.  Other areas of temperate rainforest occur in countries as diverse as Ireland and New Zealand.

An information sheet is being produced for students to explain the woodland structure.  You are invited to translate this into Welsh.




Translate the sentence:

The emergent layer is formed by the tallest trees, which grow as high as possible to reach the light.

Suggested translation: (a number of alternatives acceptable)








Description


Write four or five sentences in Welsh to describe the picture:







Understanding Welsh

Read the article, then write sentences in Welsh to answer the following questions:

When and why did the group of Welsh settlers emigrate to South America?


How did the Welsh settlers reach Patagonia?


In what areas of Patagonia did the Welsh settle?


Did the Welsh settlers have a good relationship with the local indigenous people?


Why did the Welsh settlers contact the Argentinian Government?


Is Welsh culture still important in Patagonia?


Do groups from Patagonia make cultural visits to Wales?




Yr Wladfa

Ardal yn nhalaith Chubut, Patagonia, yr Ariannin lle ymfudodd llawer o Gymry yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw`r Wladfa. Mae cymunedau Cymreig mewn gwledydd eraill hefyd, megis Pennsylvania yn yr Unol Dalaithiau, ond mae`r diwylliant a`r iaith Gymraeg yn amlycaf yn y Wladfa.

Craidd yr Wladfa yw Dyffryn Camwy, tua 60 km i`r de o Borth Madryn. Y prif drefi yw Rawson, prifddinas y dalaith, Gaiman sef y dref fwyaf Cymreig yn yr ardal, a Threlew. Tua 500 milltir i`r gorllewin o Ddyffryn Camwy, yng Nghwm Hyfryd wrth draed yr Andes yw Esquel a Threvelin, dwy dref arall a sefydlwyd gan y Cymry.

Heddiw, mae tua 150,000 o bobl yn byw yn yr ardal a thua hanner ohonynt yn ddisgynyddion i`r Cymry. Mae tua 5,000 yn siarad Cymraeg a channoedd yn dysgu`r iaith.

Yn y flwyddyn 1865 hwyliodd dros gant a hanner o Gymry, yn wyr, gwragedd a phlant, o Lerpwl i wlad newydd ddiffaith yn Ne America. Rhan o batrwm ymfudo mawr y ganrif ddiwethaf oedd hwn ac aethant yno i osgoi tlodi. Pobl penderfynol oedd y Cymry hyn a hwyliodd ar y llong Mimosa, ac er iddynt gyrraedd gwlad ddiannedd, trwy chwys a llafur llwyddasant i greu yno gymdeithas newydd.

Daeth y Gymru mewn cysylltiad â’r brodorion lleol a ddatblygodd perthynas da. Dysgasant i’r Cymry sut i hela yn null y brodorion, a bu hyn yn gymorth mawr iddynt gael digon i`w fwyta yn y blynyddoedd cynnar.

Troesant y tir diffaith yn ardal ffermio a`i throsglwyddo i`w disgynyddion sydd hyd heddiw yn byw yn y rhan honno o`r Ariannin a elwir Patagonia. Yn fuan wedi ymsefydlu yno talodd yr ymfudwyr hyn wrogaeth i faner Ariannin ac addo bod yn deyrngar i`w gwlad newydd.

Heddiw, ar ôl dros ganrif a chwarter, cawn bobl nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â Chymru yn cyd-ddathlu Gwyl y Glaniad ar Orffennaf 28 bob blwyddyn. Maent yn uno hefyd yn un o uchafbwyntiau`r flwyddyn, sef yr Eisteddfod fawr a gynhelir yn Nhrelew, Eisteddfod sydd wedi ei phatrymu ar Eisteddfodau Cymru, a cheir pobl o bob cenedl yn cystadlu ar ganu, adrodd a dawnsio a llu o gystadlaethau eraill.

Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o`u traddodiad. Ym 1987 cafodd Côr y Camwy y drydedd wobr yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Taf-Elai ym 1991 enillodd Côr Plant y Gaiman y wobr gyntaf.













Enter each section of your story in Welsh in the boxes below:






1














2














3














4














5














6