Roedd Sam wastad wedi byw yn y ddinas Sam had always lived in the city Weithiau byddai`n gyrru i`r cefn gwlad i fynd am dro He would sometimes drive into the countryside to go for a walk Sut bynnag, nid oedd e erioed wedi aros y tu allan i`r ddinas However, he had never stayed outside the city Roedd yn meddwl y byddai`n gyffrous mynd am ychydig ddyddiau i fwthyn gwyliau mewn rhan anghysbell o Gymru He thought it would be exciting to go for a few days to a holiday cottage in a remote part of Wales Paciodd focs o fwyd am sawl diwrnod a chychwyn He packed a box of food for several days and set off Dilynodd y ffordd cyn belled ag yr aeth He followed the road as far as it went Yna bu`n rhaid iddo barhau am sawl milltir ar hyd trac garw i gyrraedd y bwthyn He then had to continue for several miles along a rough track to reach the cottage Ar ôl coginio pryd o fwyd aeth i`w wely, ond ni allai gysgu After cooking a meal he went to bed, but he could not sleep Roedd yn rhy ddistaw It was too quiet Nid oedd sŵn ceir a threnau, sy`n parhau trwy`r nos yn y ddinas There was no sound of cars and trains, which continue through the night in the city Atgoffodd seiren achlysurol yr heddlu yng nghanol y nos fod pobl yn y ddinas yn cael eu diogelu The occasional police siren in the middle of the night reminded him that people in the city were being protected O ffenestr ei fwthyn, edrychodd allan ar awyr ddu gwasgaru â sêr From his cottage window, he looked out at the black sky scattered with stars Hedfanodd creadur rhyfedd, ystlum, heibio yn dawel A strange creature, a bat, flew by quietly Roedd y distawrwydd yn frawychus The silence was frightening Nid oedd yn mwynhau bod mewn lle mor unig He did not enjoy being in such a lonely place Nid oedd yna dafarn na sinema, neu hyd yn oed siop There was no pub nor cinema, nor even a shop Gyda rhywfaint o dristwch torrodd ei daith yn fyr a dychwelodd i`r ddinas a`i synau cyfarwydd With some sadness he cut short his trip and returned to the city and its familiar noises |