Session 8: Sentences

Beth fyddech chi wedi gwneud pe basai`r tywydd wedi bod yn braf?

        What would you have done if the weather had been fine?

Byddai`n rhyfedd pe basai Machynlleth yn dal i fod yn brifddinas Cymru.

        It would be strange if Machynlleth were still the capital of Wales.

Byddai yn parcio ei gar bob amser y tu allan i`r swyddfa.

        He would always park his car outside the office.

Os bydd hi`n bwrw glaw, fyddaf i ddim yn mynd â`r ci am dro.

        If it is raining, I will not take the dog for a walk.

Byddech chi`n aros amdano trwy`r dydd.

        You would be waiting for him all day.

Byddai neb yn credu`r hyn sydd wedi digwydd.

        No one would believe what has happened.

Dydw i ddim yn gwybod pam y byddai fe mor ddig.

        I don`t know why he would be so angry.

Byddaf yn golchi`r car os bydd gennyf amser.

        I will wash the car if I have time.

Rydw i’n meddwl y dylech chi ddarllen y stori.

        I think you should read the story.

A fyddai`r gwleidydd yn ateb eich cwestiynau?

        Would the politician answer your questions?

Fydden nhw’n rhoi benthyg eu beiciau i ni pe bydden ni’n gofyn?

        Would they lend their bikes to us if we were to ask?

Bydden ni`n cael ein talu bob dydd Gwener.

        We would be paid every Friday.

A fyddech chi`n gallu gorffen erbyn yr wythnos nesaf?

        Would you be able to finish by next week?

Byddai`n syniad da i ddweud wrth y rheolwr.

        It would be a good idea to tell the manager.

Byddech chi wedi cyrraedd am ddeg o`r gloch pe byddech chi wedi mynd ar y trên cynharach.

        You would have arrived at ten o`clock if you had gone on the earlier train.

Byddai wedi dewis yr ystafell westy rhatach.

        He would have chosen the cheaper hotel room.

Mae`r bwyd a`r llestri yn y gegin os oes chwant bwyd arnoch chi.

        The food and dishes are in the kitchen if you are hungry.

Bydden ni wedi eu gweld o flaen i ni ar y llwybr.

        We would have seen them ahead of us on the path.

A fyddai unrhyw un eisiau gwneud sylwadau ar y cynllun?

        Would anyone like to comment on the plan?

Byddai wedi ymdrechu`n galetach pe byddai wedi gwybod ei fod yn bwysig.

        He would have tried harder if he had known that it was important.