Session 6: Article

Llŷn yw`r penrhyn hir sy`n ymestyn i`r gorllewin o Eryri

        Llŷn is the long peninsula which extends west from Snowdonia

Mae`n rhanbarth o ffermydd bach traddodiadol, pentrefi harbwr bach a rhai trefi mwy

         It is a region of traditional small farms, small harbour villages and some larger towns

Mae gan yr arfordir draethau hyfryd, baeau a chlogwyni-môr

         The coast has beautiful beaches, bays and sea-cliffs

Mae llwybr troed pellter hir yn ymestyn o amgylch y penrhyn cyfan, o Gaernarfon i Borthmadog

         A long-distance footpath extends around the whole peninsula, from Caernarfon to Porthmadog

Mae Llŷn yn gyfoethog o ran ddiwylliant a threftadaeth Gymreig

         Llŷn is rich in Welsh culture and heritage

Pentref pysgota Aberdaron oedd yr arhosfan olaf i bererinion cyn croesi`r môr i fynachlog Ynys Enlli

         The fishing village of Aberdaron was the last stop for pilgrims before crossing the sea to the monastery of Ynys Enlli

Roedd Llithfaen yn ganolfan bwysig ar gyfer chwarela gwenithfaen

         Llithfaen was an important centre for granite quarrying

Pentref i weithwyr yn y chwarel wenithfaen gyfagos oedd Nant Gwrtheyrn

         Nant Gwrtheyrn was a village for workers at the nearby granite quarry

Gadawyd y pentref, ond mae bellach wedi`i adfer

         The village was abandoned, but has now been restored

Mae`n gartref i Ganolfan Iaith Genedlaethol Cymru

         It is home to the Welsh National Language Centre

Ar y mynydd uwchben ydy`r olion rhyfeddol Tre`r Ceiri

         On the mountain above are the amazing remains of Tre’r Ceiri

Mae`n bentref cynhanesyddol lle roedd pobl yn byw tan tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl

         It is a prehistoric village where people lived until about 2,000 years ago

Prif drefi gwyliau Llŷn yw Pwllheli ac Abersoch

         The main holiday towns of Llŷn are Pwllheli and Abersoch

Mae Pwllheli yn dref farchnad brysur gyda marina mawr

         Pwllheli is a busy market town with a large marina

Mae Abersoch yn gyrchfan glan môr poblogaidd a ffasiynol iawn

         Abersoch is a popular and very fashionable seaside resort