Session 5: Article

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig i bobl sy`n byw yng Nghymru ac i ymwelwyr

        Public transport is important for people who live in Wales and for visitors

Mae prif reilffordd yn rhedeg ar hyd arfordir y de trwy Gasnewydd a Chaerdydd, i Abertawe

         A main railway line runs along the south coast through Newport and Cardiff, to Swansea

Mae hyn yn cysylltu â dinasoedd yn Lloegr ac mae`n bwysig i deithwyr busnes

         This connects to cities in England and is important for business travellers

Caeodd y rhan fwyaf o`r rheilffyrdd yng nghymoedd De Cymru pan stopiodd y pyllau glo weithio, ond mae rhai leiniau wedi`u hailagor

         Most of the railways in the South Wales valleys closed when the coal mines stopped working, but some lines have reopened

Mae`r leiniau hyn yn cludo pobl i weithio yng Nghaerdydd bob dydd

         These lines carry people to work in Cardiff each day

Mae gan Gaerdydd gynlluniau ar gyfer system metro newydd

         Cardiff has plans for a new metro system

Bydd tramiau`n teithio trwy strydoedd y ddinas, yna`n ymuno â`r rheilffordd ac yn rhedeg i drefi cyfagos

         Trams will travel through the city streets, then join the railway and run to nearby towns

Mae`r rheilffordd yn parhau o Abertawe i Sir Benfro

         The railway continues from Swansea to Pembrokeshire

Mae pobl yn defnyddio hyn i fynd i`r arfordir am wyliau, neu wrth deithio ar fferi i Iwerddon

         People use this to go to the coast for holidays, or when travelling by ferry to Ireland

Yng Ngogledd Cymru, mae prif reilffordd arall yn rhedeg ar hyd yr arfordir trwy Fangor

         In North Wales, another main railway line runs along the coast through Bangor

Mae`r lein yn parhau ar draws Ynys Môn i Gaergybi lle mae cysylltiad fferi arall i Iwerddon

         The line continues across Anglesey to Holyhead where there is another ferry connection to Ireland

Dim ond dwy lein reilffordd sy`n croesi canol Cymru

         Only two railway lines cross central Wales

Mae`r teithiau`n araf, gan ganiatáu digon o amser i fwynhau golygfeydd hyfryd y mynyddoedd a`r arfordir

         The journeys are slow, allowing plenty of time to enjoy the beautiful scenery of the mountains and coast

Mae gwasanaethau bysiau pellter hir yn cysylltu`r prif drefi, ac mae bysiau lleol yn gwasanaethu`r mwyafrif o bentrefi

         Long distance bus services connect the main towns, and local buses serve most villages

Yn Eryri, gall cerddwyr deithio ar fws i ddechrau llwybrau troed i fyny`r Wyddfa

         In Snowdonia, walkers can travel by bus to the start of footpaths up Snowdon

Mae hyn yn lleihau`r tagfeydd a achosir gan geir sydd wedi`u parcio ar ffyrdd cul o amgylch y mynydd

         This reduces the congestion caused by cars parked on narrow roads around the mountain