Session 13: Article

Pasiwyd Mesur Tryweryn gan y Senedd ym 1957

        The Tryweryn Bill was passed by Parliament in 1957

Caniataodd hyn i Gyngor Dinas Lerpwl orlifo Cwm Tryweryn heb fod angen caniatād cynllunio gan y cyngor lleol

         This allowed Liverpool City Council to flood the Tryweryn Valley without the need for planning permission from the local council

Ym 1965, diflannodd pentref bach Capel Celyn

         In 1965, the small village of Capel Celyn disappeared

Collwyd cymuned Gymraeg lle`r oedd pobl wedi byw a gweithio am genedlaethau o dan gronfa ddŵr Llyn Celyn

         A Welsh-speaking community where people had lived and worked for generations was lost under Llyn Celyn reservoir

Dinistriwyd y pentref a`r ffermydd cyfagos er gwaethaf gwrthwynebiad holl Aelodau Seneddol o Gymru ac eithrio un

         The village and surrounding farms were destroyed despite the opposition of all the Welsh Members of Parliament except one

Gorfodwyd pob un o`r 67 o drigolion y pentref, a oedd yn cynnwys ysgol, capel a 12 fferm, i adael

         Every one of the 67 residents of the village, which included a school, chapel and 12 farms, was forced to leave

Trefnwyd protestiadau gan Fyddin Cymru Rydd a Chymdeithas Amddiffyn Cymru

         Protests were organised by the Free Wales Army and Society for the Protection of Wales

Yn 2005, rhoddodd Cyngor Dinas Lerpwl ymddiheuriad

         In 2005, Liverpool City Council gave an apology

Yn ystod cyfnodau o dywydd poeth, mae lefel y gronfa ddŵr yn gostwng

         During periods of hot weather, the level of the reservoir falls

Gwelir adfeilion y pentref

         The remains of the village are seen

Mae waliau caeau yn ymddangos o`r dŵr, a gellir gweld llawr llechfaen cegin ffermdy

         Walls of fields appear from the water, and the slate floor of a farmhouse kitchen can be seen

Gall ymwelwyr gerdded ar hyd rhannau o`r hen ffordd ar ochr y dyffryn

         Visitors can walk along parts of the old road on the side of the valley

Roedd pobl yn byw yma ac ar un adeg roedd yn bentref a chymuned lwyddiannus

         People lived here and it was once a successful village and community

Mae`n bwysig nad ydym yn anghofio

         It is important that we do not forget