Session 10: Story

Roedd Steven yn teithio i gyfarfod ar y trên

        Steven was travelling to a meeting by train

Fel rheol byddai`n ymlacio ac yn mwynhau paned o goffi yn ystod y daith

         Normally he would relax and enjoy a cup of coffee during the journey

Heddiw roedd yn teimlo`n bryderus

         Today he was feeling anxious

Roedd y trên yn araf ac yn hwyr oherwydd tywydd gwael

         The train was slow and late because of bad weather

Roedd yn gallu gweld o ffenestr y cerbyd bod y glaw yn mynd yn drymach

         He could see from the carriage window that the rain was getting heavier

Yn union fel yr oedd yn pendroni a fyddai’n hwyr i’w gyfarfod, daeth y trên i stop yn sydyn

         Just as he was wondering whether he would be late for his meeting, the train came to a sudden halt

Roeddent wedi stopio mewn trychfa ddwfn gydag ochrau serth

         They had stopped in a deep cutting with steep sides

Edrychodd i lawr a gwelodd bod y trac dan ddŵr

         He looked down and saw that the track was under water

Ar ôl sawl munud, cerddodd rheolwr y trên drwy`r cerbyd

         After a few minutes, the train manager walked through the carriage

Dywedodd fod coeden wedi cwympo ar draws y trac o’u blaen, ac na allai’r trên symud

         He said that a tree had fallen across the track ahead, and the train could not move

Gallan nhw fod yno am rhai oriau

         They may be there for some hours

O`r diwedd, daeth ffermwyr lleol gyda thractorau a threlars

         Eventually, local farmers came with tractors and trailers

Gwnaethon nhw helpu teithwyr i fynd o`r trên i dir sych

         They helped passengers to get from the train to dry ground

Trefnodd y cwmni rheilffordd dacsis i fynd â phobl i`w cyrchfannau

         The railway company arranged taxis to take people to their destinations

Collodd Steven y cyfarfod, ond roedd ei reolwr yn gwybod beth oedd wedi digwydd o`r newyddion teledu

         Steven missed the meeting, but his manager knew what had happened from the television news

Dros yr ychydig ddyddiau nesaf, daeth y peirianwyr rheilffordd ag offer trwm i atgyweirio ac ailagor y trac

         Over the next couple of days, the railway engineers brought heavy equipment to repair and reopen the track