Session 1: Story

Mae Dewi eisiau mynd allan i`r cefn gwlad am ychydig o ymarfer corff

        Dewi wants to go out to the countryside for some physical exercise

Mae`n teimlo`n ddryslyd oherwydd problem yn y gwaith

         He feels confused because of a problem at work

Mae e`n beiriannydd ac mae`n rhaid iddo ddylunio pont droed i groesi ceunant dwfn

         He is an engineer and he must design a footbridge to cross a deep gorge

Mae hi wedi bod yn broblem anodd

         It has been a difficult problem

Mae e`n pacio ei esgidiau cerdded a rhywfaint o fwyd i ginio, yna mae`n cychwyn ar ei feic

         He packs his walking boots and some food for lunch, then he sets off on his bike

Mae`n gadael ei feic ar ben dyffryn lle mae`r trac yn mynd yn rhy serth, yna mae`n parhau ar droed

         He leaves his bike at the top of a valley where the track becomes too steep, then he continues on foot

Pan ddaw e dros ben y bryn, mae`n gweld peilon trydan enfawr o`i flaen

         When he comes over the top of the hill, he sees a huge electricity pylon in front of him

Mae`n sylweddoli yn sydyn bod siāp rhan o`r peilon yn ddelfrydol ar gyfer dyluniad ei bont

         He suddenly realises that the shape of part of the pylon is ideal for his bridge design

Mae`n tynnu lluniau o`r strwythur, yna mae`n dychwelyd i`w feic gan deimlo`n fodlon iawn

         He takes photographs of the structure, then he returns to his bicycle feeling very content